
Ysgol Bro Alun
@broalunwrecsam
Ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg yng Ngwersyllt, Wrecsam. A Welsh medium primary school in Gwersyllt, Wrexham.
ID: 1099984478901075968
25-02-2019 10:48:31
1,1K Tweet
494 Followers
104 Following

Llongyfarchiadau mawr i bawb oedd yn cystadlu yn yr Eisteddfod Cylch heddiw ym Mro Alun! Mae pawb wedi gweithio’n hynod o galed ac wedi cynrychioli’r ysgol yn wych. Rydym yn falch iawn o bawb 🏴❤️🏅 Urdd Fflint a Wrecsam Diolch hefyd i’r PTA am weithio’n mor galed yn codi pres 🫶 CRhA Ysgol Bro Alun PTA


Mae dosbarth Eryr wedi mwynhau ein gwers tenis heddiw yn ymarfer sgiliau rali a gwaith tîm! Diolch i Wrexham Tennis & Padel Centre am yr holl hwyl a sbri 🎾🏓


Am brynhawn gwerth chweil yma ym Mro Alun yn cynnal Twrnamaint Mathemateg i ysgolion y clwstwr am y tro cyntaf! Da iawn i bob ysgol am eich hymdrech a’ch gwaith tîm arbennig 💪 Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Bryn Tabor am ennill heddiw- llawn haeddu🥇 Ysgol Min y Ddôl Ysgol Bodhyfryd


Cychwyn gwych i’r wythnos i ddosbarth Eryr efo sesiwn diddorol gan PC Marc yn trafod neges bwysig iawn- bwlio a seibr fwlio. Da iawn i bawb am ymateb yn aeddfed iawn 👮♂️ HGC SchoolBeat / NWP SchoolBeat


Sesiwn hwyl bore ‘ma i ddosbarth Eryr yn ein 3ydd gwers tenis. Pawb wedi mwynhau ymarfer sgiliau rali a syrfio gwahanol. Da iawn wir! 🎾🏓 Diolch Wrexham Tennis & Padel Centre


Hwyl a sbri i Ddosbarth Eryr heddiw yn ein gwers tenis. Pawb yn mwynhau ymarfer sgiliau saethu newydd a chwarae gemau tîm cystadleuol 🏓🎾 Diolch yn fawr Wrexham Tennis & Padel Centre


Da iawn i bawb heddiw am drio eu gorau glas yn y trawsgwlad yn Nyfroedd Alun!Diolch i Wrecsam Egniol / Active Wrexham am drefnu. Pawb yn edrych yn smart yn y cit newydd diolch i’r CRhA Ysgol Bro Alun PTA Well done to everyone who ran the cross country today at Alyn Waters-looking smart in our new kits! 🏃👟🏃♀️


Am fore llawn hwyl i flwyddyn 5 a 6 heddiw yn cwblhau gweithdai RAF gan Xplore! Roedd pawb wrth eu boddau yn dysgu mwy am y grymoedd arbennig sy’n caniatau i awyrenau hedfan, cyn creu pontydd cryf eu hunain a’u profi efo pwysau gwahanol-Gwaith tîm gwych! Diolch Xplore! Science Discovery Centre

Llongyfarchiadau mawr i bawb am berfformio’n wych yn yr Eisteddfod Sir heddiw. Da iawn wir i’r parti llefaru ac i Sian am eich holl waith caled. Diolch o galon i’r teuluoedd am eu holl gefnogaeth. Rydym yn falch iawn ohonoch chi gyd! 🏴🫶🏴 Urdd Fflint a Wrecsam #Urdd2025


Sesiwn olaf tenis ar gyfer dosbarth Eryr heddiw 😢 Dyma nhw yn mwynhau chwarae gemau tîm i ddathlu diwedd hanner tymor gwych o wersi! Diolch yn fawr i Gruff o Wrexham Tennis & Padel Centre am yr holl hwyl 🎾🏓




Wedi cyrraedd Gwersyll Llangrannog yn saff ac yn barod i fwynhau’r holl gweithgareddau dros y tridiau nesaf 🏴🤩


Wel am ddiwrnod cyntaf gwych yma yn Llangrannog! Cafodd pawb hwyl a sbri yn mynd ar y beiciau modur, wal ddringo, reidio ceffylau, trampilînio a llawer mwy! Edrych ymlaen at noson llawn hwyl yn ein twmpath heno💪🏴 Gwersyll Llangrannog


Diwrnod 2 yn mynd yn dda yma yn Llangrannog! Dyma ni yn mwynhau’r ceirt modur , rhaffau uchel, gwylltgrefft, sgio a gwibgartio! Mwy o hwyl i ddod prynhawn ‘ma efo amser yn nofio, saethyddiaeth a disgo i orffen y noson 🪩🎶🏴 Gwersyll Llangrannog


Wel am olygfa ☀️🌊😎 Fe gerddom lawr at y traeth am ginio a hufen iâ heddiw cyn cychwyn am adref! Am antur, am dywydd, am le braf 🏴 Gwersyll Llangrannog



Am ddiwrnod gwych i genod blwyddyn 5 a 6 draw yn y Clwb Criced Gwersyllt yn cymryd rhan mewn gŵyl criced hwyl a sbri. Gymaint o gyfleuoedd gwych i ymarfer ein sgiliau criced cyn chwarae gemau cyfeillgar. Da iawn wir i bawb 🏏 Gwersyllt Park Cricket Club Wrecsam Egniol / Active Wrexham


Dyma ni yn gwisgo Coch i ddathlu llwyddiant Clwb Pêl-droed Wrecsam unwaith eto eleni! Wrexham AFC Llongyfarchiadau i’r tîm ar eu dyrchafiad i’r Bencampwriaeth! ⚽️ Cawsom wasanaeth heddiw am bwysigrwydd dyfalbarhau a gweithio fel tîm – yn union fel tîm pêl-droed gwych!🔴⚪️ 🏴

