
Plas Carmel
@carmelplas
Cynllun i ddiogelu Capel Carmel a Sio Plas yn Anelog ger Aberdaron
ID: 1362789760725581824
19-02-2021 15:43:09
46 Tweet
70 Followers
29 Following

@boimoel 💔 Bydd Meddyges Bryn Canaid yn cael lle haeddiannol yn Plas Carmel oleia. Roedd hi’n cerdded i Ffynnon Saint i hel berw’r dŵr gerllaw i drin insomnia hefyd.

👀 Dyluniad ⏭ ar eich crys-t yn fuan! eisteddfod #eisteddfodllŷnaceifionydd #boduan #llŷnaceifionydd #dilyscadwaladr #pedrog #cynan #yrorsedd #yrarchdderwydd


Diolch Plas Carmel am ein gwahodd i gynnal Noson Lawen yn Neuadd Rhoshirwaun heno. Bu canu, actio, llefaru, dawnsio a digon o chwerthin. Mae’n swyddogol, mae’r Cwmni Noson Lawen yn ôl ar y lôn!!



Lansiad nofel gyntaf Ffion Enlli, ‘Cwlwm’ neithiwr yn Felin Uchaf. Llongyfarchiadau mawr i ti! Yn y llun yma mae pedair o’n genod ni sydd yn weithgar ym myd y ddrama a llenyddiaeth- Enlli, Lois, @MargedTudur Mared Llywelyn


Esiampl gwych arall gan Plas Carmel o fynd ati a darparu cyfleusterau ar gyfer ei chymuned leol #HTNConf22

Wedi cael pnawn braf iawn yn chwedleua fel rhan o ddathliadau agoriad swyddogol Plas Carmel. Mi oedd hi'n wych gweld yr hen le mor brysur a diolch i'r gynulleidfa am fod mor gynnes! (wel, mi oedd hi'n haul braf wedi'r cwbl...)





Taith gerdded Mynydd Rhiw heddiw ar ran Plas Carmel Niwl ar y topia. Ffynnon Aelrhiw, carneddau Oes Efydd a Maen Hir


'Mae na wledd o'n blaenau yn Llŷn ac Eifionydd, llawn blasau o'r môr a'r mynydd. Dyma gornel o Gymru sy’n llawn hwyl a haelioni, a darganfyddiadau lu...' Bachwch gopi CylchgrawnBarn o'ch siop lyfrau lleol - dyma damaid i aros pryd! 🍽 🏴x barn.cymru



Helo un ac oll 👋 Ma Guto Dafydd a finna' yn dathlu cyhoeddiad ein llyfr 'Mae Bywyd Yma' nos Iau nesa! Dewch draw i Plas Glyn y Weddw lle fyddw ni'n sgwrsio am greu'r llyfr, arddangos lluniau a fideos a chael perfformiad gan Leisiau Cafflogion, gyda diolch i Gwasg Carreg Gwalch.



Crefftau Oes yr Haearn Sesiwn grefftau i blant 4-11 oed Dydd Sadwrn yma Rhagfyr 9fed 11:00 - 12:30. Lleoliad: Amgueddfa Forwrol Llŷn Archebwch le drwy ebostio [email protected] #spfuk #ffyniantbro #levellingup
