Eglwysi Cylch Llan (@eglwysillanrhos) 's Twitter Profile
Eglwysi Cylch Llan

@eglwysillanrhos

Eglwysi Gofalaeth Bro Llanuwchllyn a'r Cylch

ID: 3369121426

calendar_today10-07-2015 11:16:27

3,3K Tweet

442 Followers

207 Following

Eglwysi Cylch Llan (@eglwysillanrhos) 's Twitter Profile Photo

Heddiw: 🙏10:00 Ysgoldy - Ysgol Sul plant, ieuenctid ac oedolion 🙏1:00 Ysgoldy - Cyfarfod Bach Peniel (sylwch y newid lleoliad oherwydd y tywydd) 🙏2:00 Llangower - Gweinidog

Plygain (@plygain) 's Twitter Profile Photo

Bydd tri gwasanaeth #Plygain o amgylch Cymru dydd Sul yma, 19 Ionawr. ⛪️Myddfai, Eglwys Sant Mihangel, 5pm ⛪️Gorseinon, Eglwys Santes Catrin, 6pm ⛪️Llanuwchllyn, Capel Ainon 7pm (rhaid ymgasglu ymlaen llaw ger y neuadd bentref)

Bydd tri gwasanaeth #Plygain o amgylch Cymru dydd Sul yma, 19 Ionawr. 

⛪️Myddfai, Eglwys Sant Mihangel, 5pm
⛪️Gorseinon, Eglwys Santes Catrin, 6pm
⛪️Llanuwchllyn, Capel Ainon 7pm (rhaid ymgasglu ymlaen llaw ger y neuadd bentref)
Eglwysi Cylch Llan (@eglwysillanrhos) 's Twitter Profile Photo

Heno, ein braint fel Eglwys Annibynwyr y Bala fydd croesawu ein brodyr a’n chwiorydd o eglwysi eraill y dref i uno mewn gwasanaeth Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol. 🗓️21-01-25 🕖 7:00pm 📍Eglwys Crist Croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni, ac i fwynhau paned a sgwrs ar y diwedd

Heno, ein braint fel Eglwys Annibynwyr y Bala fydd croesawu ein brodyr a’n chwiorydd o eglwysi eraill y dref i uno mewn gwasanaeth Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol.

🗓️21-01-25
🕖 7:00pm
📍Eglwys Crist

Croeso cynnes i unrhyw un ymuno â ni, ac i fwynhau paned a sgwrs ar y diwedd
Eglwysi Cylch Llan (@eglwysillanrhos) 's Twitter Profile Photo

Diolch i bawb ymunodd â ni yn ein Gwasanaeth Wythnos Weddi am Undeb Cristnogol heno yn Eglwys Crist y Bala- oedfa wedi ei baratoi gan gymuned Bose yn yr Eidal. Hanes Iesu yn rhannu’r geiriau “Myfi yw’r atgyfodiad a’r bywyd…”, cyn gofyn i Martha, “A wyt ti’n credu hyn?” (Ioan 11)

Dydd Sul, Chwefror 2 🙏 10:00 Eglwys Crist - Gweinidog. Oedfa Gymun 🙏10:00 Ysgoldy - Ysgol Sul plant ac oedolion 🙏2:00 Ysgoldy - Gweinidog 🙏5:30 Cynllwyd - Gweinidog Croeso cynnes i bawb

Undeb yr Annibynwyr (@annibynwyrcymru) 's Twitter Profile Photo

👇Nos Iau, 1 Mai am 7:30 📍Capel y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd 🎤Darlith gyhoeddus gan y Parchg Ddr Rosa Hunt ⭐Bydd croeso cynnes i chi!

👇Nos Iau, 1 Mai am 7:30
📍Capel y Tabernacl, Yr Ais, Caerdydd 
🎤Darlith gyhoeddus gan y Parchg Ddr Rosa Hunt

⭐Bydd croeso cynnes i chi!
Eglwysi Cylch Llan (@eglwysillanrhos) 's Twitter Profile Photo

Dydd Sul, Mawrth 16 🙏10:00 Ysgoldy - Ysgol Sul plant ac oedolion 🙏2:00 Ysgoldy - Oedfa Sul y Beibl Braint i ni fydd cael croesawu eglwysi cylch Penllyn i’r Ysgoldy yfory wrth i Gangen Y Bala a Phenllyn Cymdeithas y Beibl gynnal eu hoedfa Sul y Beibl Undebol. Croeso cynnes i bawb

Dydd Sul, Mawrth 16

🙏10:00 Ysgoldy - Ysgol Sul plant ac oedolion

🙏2:00 Ysgoldy - Oedfa Sul y Beibl

Braint i ni fydd cael croesawu eglwysi cylch Penllyn i’r Ysgoldy yfory wrth i Gangen Y Bala a Phenllyn <a href="/cymybeibl/">Cymdeithas y Beibl</a> gynnal eu hoedfa Sul y Beibl Undebol.

Croeso cynnes i bawb
Eglwysi Cylch Llan (@eglwysillanrhos) 's Twitter Profile Photo

Dydd Sul, Ebrill 6 🙏10:00 Eglwys Crist - Gweinidog. Cymun 🙏10:00 Ysgoldy - Ysgol Sul Oedolion 🙏10:00 - Plant ac Ieuenctid yr Ysgol Sul yn ymweld â Coleg y Bala 🙏11:15 Eglwys Crist -‘Wedi’r Oedfa’ - Ysgol Sul Oedolion 🙏2:00 Peniel - Gweinidog 🙏5:30 Cynllwyd - Gweinidog

Eglwysi Cylch Llan (@eglwysillanrhos) 's Twitter Profile Photo

Sul, Ebrill 13 🙏10:00 Ysgoldy-Ysgol Sul 🙏2:00 Ysgoldy-Gweinidog 🙏5:00 Bala-Gweinidog. U yn Tegid Pwy sy’n dod i Salem dref? Iesu’n Llywydd: taenwn ar ei lwybrau ef gangau’r palmwydd; rhoddwn iddo barch a chlod mewn Hosanna; atom ni mae heddiw’n dod Haleliwia! Elfed

Undeb yr Annibynwyr (@annibynwyrcymru) 's Twitter Profile Photo

😀Dewch atom i Nant Gwrtheyrn ddiwedd mis Mehefin eleni ar gyfer ein Cyfarfodydd Blynyddol. 👏Byddwn yn croesawu dau siaradwr gwadd sef Yasmine Rishmawi, diwinydd ac anthropolegydd ifanc o Fethlehem, Palesteina ac Aled Eirug a fydd yn trafod Ymgyrch Heddwch 1925.

😀Dewch atom i Nant Gwrtheyrn ddiwedd mis Mehefin eleni ar gyfer ein Cyfarfodydd Blynyddol.
👏Byddwn yn croesawu dau siaradwr gwadd sef Yasmine Rishmawi, diwinydd ac anthropolegydd ifanc o Fethlehem, Palesteina ac Aled Eirug a fydd yn trafod Ymgyrch Heddwch 1925.
Eglwysi Cylch Llan (@eglwysillanrhos) 's Twitter Profile Photo

‘Y Pasg drwy Gerddoriaeth a Barddoniaeth’. Noson arbennig wedi ei threfnu yn yr Ysgoldy #Llanuwchllyn nos Sul y Pasg am 7:30 o’r gloch. Datgeinydd #Organ: Tudur Jones Unawdwyr: Arfon Griffiths a Mary Lloyd-Davies Croeso cynnes i bawb. Undeb yr Annibynwyr EBC - PCW Bedyddwyr / Baptists

‘Y Pasg drwy Gerddoriaeth a Barddoniaeth’.

Noson arbennig wedi ei threfnu yn yr Ysgoldy #Llanuwchllyn nos Sul y Pasg am 7:30 o’r gloch.

Datgeinydd #Organ: Tudur Jones
Unawdwyr: Arfon Griffiths a Mary Lloyd-Davies

Croeso cynnes i bawb.

<a href="/AnnibynwyrCymru/">Undeb yr Annibynwyr</a> <a href="/EBC_PCW/">EBC - PCW</a> <a href="/BUWales/">Bedyddwyr / Baptists</a>
Eglwysi Cylch Llan (@eglwysillanrhos) 's Twitter Profile Photo

Heno am 7:00 yn Eglwys Crist, bydd Oedfa’r Swper Olaf Undebol yr Ofalaeth dan arweiniad y Gweinidog. Mae’r bwrdd wedi ei osod. Croeso cynnes i bawb

Heno am 7:00 yn Eglwys Crist, bydd Oedfa’r Swper Olaf Undebol yr Ofalaeth dan arweiniad y Gweinidog.

Mae’r bwrdd wedi ei osod. Croeso cynnes i bawb
Eglwysi Cylch Llan (@eglwysillanrhos) 's Twitter Profile Photo

Diolch i blant yr Ysgol Sul am baratoi’r ffenestr liw arbennig yma yn adrodd hanes yr Wythnos Fawr. Bydd y ffenestr wedi ei goleuo gydol y penwythnos er mwyn i bawb allu ei gwerthfawrogi.

Fe dorrodd y wawr, sancteiddier y dydd, fe ddrylliwyd yr iau, mae’r Cadarn yn rhydd, fe gododd y Ceidwad, boed moliant i Dduw, fe goncrwyd marwolaeth, mae’r Iesu yn fyw! (Nantlais. CFf 549) Cyfarchion a bendithion y Pasg i bawb gan y gynulleidfa ar lan Llyn Tegid bore heddiw

Fe dorrodd y wawr, sancteiddier y dydd,
fe ddrylliwyd yr iau, mae’r Cadarn yn rhydd,
fe gododd y Ceidwad, boed moliant i Dduw,
fe goncrwyd marwolaeth, mae’r Iesu yn fyw!

(Nantlais. CFf 549)

Cyfarchion a bendithion y Pasg i bawb gan y gynulleidfa ar lan Llyn Tegid bore heddiw