Llion Jones (@llionj) 's Twitter Profile
Llion Jones

@llionj

Bardd ar y bêl... yn trydar mewn trawiadau... (neu roi X yn y Gymraeg)... a'r synau'n rhai personol.

ID: 23363625

linkhttp://www.llionjones.cymru calendar_today08-03-2009 22:26:22

1,1K Tweet

3,3K Followers

2,2K Following

Llion Jones (@llionj) 's Twitter Profile Photo

Yn eisteddle dyhead bu'r geiriau ar glustiau gwlad mai hir yw pob ymaros fel pader yn nyfnder nos, a neb yn ei hateb hi... Awr yw hon i wirioni, fe ddaeth i ben ein penyd, awn heb ofn hyd lwyfan byd. 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Yn eisteddle dyhead 
bu'r geiriau ar glustiau gwlad 
mai hir yw pob ymaros 
fel pader yn nyfnder nos,
a neb yn ei hateb hi...
Awr yw hon i wirioni, 
fe ddaeth i ben ein penyd, 
awn heb ofn hyd lwyfan byd.
🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Llion Jones (@llionj) 's Twitter Profile Photo

Ti fu chwedl dy genhedlaeth ar y maes, ŵr mwyn dy arwriaeth, yn cymell er gwell, er gwaeth, dy wal â'th ysbrydoliaeth. #diolchchris

Llion Jones (@llionj) 's Twitter Profile Photo

Job yw i fanijo beirdd a rhoi hefyd i brifeirdd drywydd drwy fyd yr awen a llwybr i loywi ein llên. #cydlynyddbarddas lleol.cymru/cy/swyddi/cydl…

Llion Jones (@llionj) 's Twitter Profile Photo

Ar-lein, mae 'na awyr las draw o hyd, a’r awch am gymdeithas harddach ag iddi urddas a sŵn creu nid atsain cras. Llion Jones.bsky.social

Llion Jones (@llionj) 's Twitter Profile Photo

Heno ar hyd y glannau, daw i gof chwe deg wyth o ynnau a sain beiddgar gitarau yn tanio awch crwtyn iau. O'r Rhyl tu hwnt i orwelion dy fyd fe est â'th ganeuon, ond roedd ardal dy galon yn gaer hud i yrfa gron.