Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile
Y Cymro

@y_cymro

Cyfrif Swyddogol Unig Bapur Newydd Cenedlaethol Cymru
Cysylltwch: [email protected]
Gwefan: ycymro.cymru
Facebook: facebook.com/yCymroarlein/

ID: 257429322

calendar_today25-02-2011 11:56:41

4,4K Tweet

7,7K Followers

3,3K Following

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

"..Y Llais (Boom Cymru)..lot o siots slo-mo o’r beirniaid - sori, HYFFORDDWYR - yn plethu eu breichiau neu’n waldio’r botwm coch, darpar gantorion ‘really excited’ a ‘rîli cyffrous’ yn camu ar y llwyfan,Neiniau a Nannas yn beichio crïo ar y cyrion" Dylan W Williams ar Y Llais

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

Hanesyddol – trydydd dyrchafiad yn olynol i Wrecsam - adroddiad arbennig Y Cymro gan David Edwards ycymro.cymru/newyddion/2025…

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

"..ar y chwiban olaf, tyrodd miloedd o gefnogwyr gorfoleddus Wrecsam i ddathlu dyrchafiad eu harwyr. Roedd dinas Wrecsam mewn ecstasi,a Chlwb Pêl-droed Wrecsam yn y Bencampwriaeth - am olygfa anhygoel." David Edwards ar Wrecsam - y tîm 1af i gael dyrchafiad mewn 3 tymor yn oynol

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

Cydnabod cyfraniad ‘na chafwyd ei debyg’ i’r byd llyfrau i Lyn Ebenezer. Mewn digwyddiad i lansio cyfrol newydd Cerddi’r Ystrad ym Mhontrhydfendigaid fe gyflwynwyd gwobr arbennig am Gyfraniad Oes i Fyd Llyfrau i Lyn Ebenezer. ycymro.cymru/newyddion/2025…

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

"Mae data gan Llywodraeth Cymru yn dangos bod masnach gyda’r U.D. wedi dod i gyfanswm o £6.4bn yn 2024, sef £4.2bn mewn mewnforion a £2.2bn mewn allforion i’r wlad. Pe bai Cymru yn wlad annibynnol fe ddylen ni fod yn edrych i osod tollau ar yr U.D...." Dr Edward Thomas Jones ,rhifyn Mai

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

"..mae timau pêl droed cenedlaethol Cymru yn dal eu tir. Mae’r hyfforddwyr yn agos at y cefnogwyr, y gefnogaeth yn anhygoel, y tocynnau yn rhesymol a theimlaf o bosib eu bod yn agosach at galon pobl Cymru gyfan na’r Undeb Rygbi." Trefor Jones ar fethiannau diweddar Undeb Rygbi Cymru

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

"..pan gyflwynodd Michael Sheen a’i dîm eu cynlluniau ar gyfer..y cwmni newydd, y Welsh National Theatre sydd wedi codi fel ..Ffenic, o lwch y National Theatre Wales …yn fenter gyffrous gadarnhaol ac yn bwysicach na dim, yn gyfan gwbl Gymreig." sharon haf morgan michael sheen 💙

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

Iestyn Jones yn Eisteddfod yr Urdd Margam gyda Mr Urdd. Meddai Iestyn: “Mi gymerodd y daith o Bala i Abertawe bron iawn i 4 awr. Ond, roedd o'n werth y siwrne - wedi gweld a chlywed actio, canu a dawnsio gwych… wedi llenwi fy mol a di cwrdd a Mr Urdd! Hwre :)" Urdd Gobaith Cymru Urdd Gorllewin Morgannwg

Iestyn Jones yn Eisteddfod yr Urdd Margam gyda Mr Urdd. Meddai Iestyn: “Mi gymerodd y daith o Bala i Abertawe bron iawn i 4 awr. Ond, roedd o'n werth y siwrne - wedi gweld a chlywed actio, canu a dawnsio gwych… wedi llenwi fy mol a di cwrdd a Mr Urdd! Hwre :)" <a href="/Urdd/">Urdd Gobaith Cymru</a> <a href="/UrddGorMor/">Urdd Gorllewin Morgannwg</a>
Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

"....llawer o’r rhai fu’n protestio dros y blynyddoedd sydd erbyn hyn yn gyfrifol am reoli’r sefydliadau a grëwyd. Pam felly y gwelir twf dwyieithrwydd ar hyd a lled ein cyfryngau a pam fod cymaint o bwyslais yn niwylliant a newyddion o Loegr?" sharon haf morgan yn rhifyn Mehefin

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

Albwm newydd Diffiniad newydd ei ryddhau. 'Diddiwedd' - y cyntaf ers 27 o flynyddoedd. Wedi’i ffurfio yn Yr Wyddgrug yn 1991 gan y ffrindiau ysgol Iestyn Davies, Iwan Jones, Geraint Jones ac Ian Cottrell, gyda Bethan Richards ac Aled Walters yn ymuno ar hyd y ffordd, DIFFINIAD

Albwm newydd Diffiniad newydd ei ryddhau. 'Diddiwedd' - y cyntaf ers  27 o flynyddoedd. Wedi’i ffurfio yn Yr Wyddgrug yn 1991 gan y ffrindiau ysgol Iestyn Davies, Iwan Jones, Geraint Jones ac Ian Cottrell, gyda Bethan Richards ac Aled Walters yn ymuno ar hyd y ffordd, 
<a href="/diffiniad/">DIFFINIAD</a>
Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

"O’r diwedd ddaeth cyhoeddiad gan Jack Sargeant..Ond penderfyniad hynod siomedig i beidio gweithredu argymhelliad y panel arbenigol i sefydlu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru..Penderfyniad yn groes i addewid a wnaed gan ei ragflaenydd" Carl Morris rhifyn Mehefin

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

"..rhaid inni warchod popeth sy’n werth ei warchod....Yr unig ffordd wâr i wneud hynny yw croesawu dieithriaid, a gwneud iddyn nhw deimlo’n gartrefol yma yng Nghymru, ond iddyn nhw dderbyn hefyd fod gennym ninnau iaith a diwylliant a thraddodiad i’w gwarchod.." Barn Dafydd Iwan

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

"...gallwn ddefnyddio technoleg i gymryd lle gweithwyr yn unig, neu gallwn ei defnyddio i wella sgiliau pobl, gan hybu’r economi a chreu swyddi newydd" BARN gan Dr Edward Thomas Jones Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor, rhifyn @DrEdwardThomasJones

Y Cymro (@y_cymro) 's Twitter Profile Photo

"Digon yw digon. O heddiw ymlaen, dwi am leihau fy nefnydd o gyfryngau cymdeithasol, a cheisio hyfforddi fy hun i siarad yn fwy clên gyda’n hun. Felly, annwyl ddarllenwyr, pam na wnewch chithau roi cynnig arni hefyd?... Cadi x" Cadi Gwyn Edwards yn rhifyn Mehefin Y Cymro