Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile
Ysgol Plas Coch

@ysgolplascoch

Ysgol gynradd gyfrwng Gymraeg yn Wrecsam. A Welsh medium primary school in Wrexham.

ID: 1088166341780099072

linkhttp://www.ysgolplascoch.cymru calendar_today23-01-2019 20:07:27

1,1K Tweet

591 Followers

62 Following

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Wel am fore llawn hwyl y cawsom yng nghwni Tudur Phillips heddiw. Roedd cyffro mawr yn y neuadd wrth i ni ddysgu am yr hyn y gallwn edrych ymlaen ato yn eisteddfod Genedlaethol Wrecsam yr haf ‘ma!

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Rydym wedi bod yn hynod o brysur yn y goedwig, wrth baratoi ein medalau ar gyfer diwrnod Mabolgampau! Rydym wedi bod yn creu tyllau gyda dril llaw ac wedi eu haddurno!

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Does dim amheuaeth ein bod yn cael profiadau anhygoel yn y goedwig! Medalau Dosbarth Gwenllian yn barod at ein diwrnod Mabolgampau!! Da iawn chi am ddyfalbarhau.

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Cawsom ddiwrnod lles gwych ddydd Llun. Pawb wedi mwynhau creu lluniau natur, ioga a’r cŵn poeth blasus yn y goedwig! Rydym yn edrych ymlaen tuag at weddill yr wythnos.

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Llongyfarchiadau i bawb ym mlwyddyn 2 a 3 am drio eu gorau glas yn ystod Mabolgampau heddiw. Rydym mor falch ohonoch. Pawb wedi cael medal i fynd adre, ar ôl eu creu yn y goedwig!!

JAMBORI!!! Sesiwn llawn hwyl a sbri wrth gymryd rhan yn Jambori Ewros Merched Cymru! Pob lwc ferched, ewch amdani! ⚽️🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎶🎤 FA WALES

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Rydym wedi mwynhau chwarae gemau bwrdd a datrys problemau gyda’n gilydd! Roedd Mr Jones hyd yn oed yn wên o glust i glust! 😃🎲

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Wrth ddal ati i ddysgu, mae blwyddyn 2 a 3 wedi mwynhau dysgu clymau, creu celf doniol a chreu hunan bortread. Da iawn chi am drio eich gorau glas.

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Rhoi. ❤️ Rydym wedi cael diwrnod prysur yn paratoi cardiau penblwydd ar gyfer ein gilydd flwyddyn nesaf, addurno bisged i rhywun arbennig a chreu breichled cyfeillgarwch i ffrind. Diwrnod llawn cariad.

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Balchder!!! Llongyfarchiadau enfawr i gôr yr ysgol am gynrychioli’r ysgol yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen heddiw. Rydych wedi gwneud yn anhygoel, da iawn chi!

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Picnic Blwyddyn 2 a 3! Cawsom brynhawn bendigedig yng nghwmni ffrindiau a theulu heddiw. Ar ôl paratoi’r bwyd picnic yn ystod y bore, cawsom gyfle i fwynhau yn yr haul yn y prynhawn. Diolch am eich cefnogaeth.

Ysgol Plas Coch (@ysgolplascoch) 's Twitter Profile Photo

Profiad bythgofiadwy yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Da iawn bawb Am unforgettable experience competing at the National Eistddfod! Well done everyone! Wrexham.com LeaderLive

Profiad bythgofiadwy yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Da iawn bawb 

Am unforgettable experience competing at the National Eistddfod! Well done everyone!

<a href="/wrexham/">Wrexham.com</a> <a href="/leaderlive/">LeaderLive</a>