
Ffermwyr Ifanc Môn
@cffiynysmon
Mudiad i bobl ifanc yn cael ei redeg gan aelodau Ffermwyr Ifanc Ynys Môn.
E-bost : [email protected]
ID: 1380068132
25-04-2013 18:07:22
1,1K Tweet
695 Followers
346 Following

Pob lwc i holl aelodau Ffermwyr Ifanc Môn fydd yn cystadlu yn y Ffair Aeaf lawr yn Llanelwedd fory a dydd Mawrth Royal Welsh Agricultural Society. Mwynhewch y profiad a cofiwch eich cotiau gwyn, tocynnau a cherdyn aelodaeth! CFfI Cymru Wales YFC


Llongyfarchiadau mawr i Awen o Glwb Bodedern! 🎉 Un o ennillwyr cystadleuaeth CFfI Cymru ar gyfer dylunio cerdyn Nadolig! 🎄Os ydych chi lawr yn y sioe Royal Welsh Agricultural Society cofiwch bigo fyny pecyn o ganolfan y mudiad yn Llanelwedd! 🐮


Llongyfarchiadau i Will, CFfI Penmynydd, a Manon CFfI Rhosybol, ar gael eu dewis i fynd ar y 'Daith Dirgel'! CFfI Cymru #teithiogydacffi

Llongyfarchiadau i Gadeirydd y Sir, Fflur, CFfI Penmynydd, ar gael ei derbyn ar y daith 'Agri-Eye'! Edrych ymlaen i glywed yr hanes! CFfI Cymru #teithiogydacffi


Diolch DYFED CCTV LTD am y gwaith o osod CCTV ar ein canolfan 👍

Archebwch eich sedd wrth y bwrdd brecwast yng Nghaffi Morgan Evans Gaerwen, ddydd Sadwrn, Ionawr 28 drwy gysylltu gyda swyddfa Anglesey Branch FUW 😋🍴Elw yn mynd tuag at The DPJ Foundation


#BrewMonday rhannwch eich lluniau gyda ni! Cymerwch bum munud am sgwrs bach dros baned gyda rhywun! Paned o de a rhoi'r byd yn ei le! ☕️🫖🍪 CFfI Cymru


Diwrnod Santes Dwynwen Hapus i chi gyd gan Ffermwyr Ifanc Môn CFfI Cymru ❤️❤️ #SantesDwynwen


Wel mae’r diwrnod mawr wedi cyrraedd Gwledd Adloniant CFfI Cymru - Wales YFC Entertainment Feast yn TrydarPontio! Rhai o aelodau Clwb Ffermwyr Ifanc Bodedern yn cael ‘Tech Run’ bore ma! Pob lwc i chi gyd! CFfI Cymru


Bydd Welsh Water yn cynnal sesiwn mewn partneriaeth â CFfI Cymru, ar sawl testun 📅 Dyddiad : 02.05.2023 ⏰ Amser : 7yh 📍 Lleoliad: Maes y Sioe Sir Fôn Am fwy o wybodaeth, neu i archebu eich lle cysylltwch â Lee Pritchard:[email protected]


Braint cael croesawu dau aelod gweithgar o Ffermwyr Ifanc Môn i Orsedd Beirdd Ynys Môn ym Modedern heddiw Carwyn Jones @carwyn2099 a Rhys Richards is gadeirydd CFfI Cymru. Seremoni hyfryd i gyhoeddi Eisteddfod Bro Alaw 2024.


Edrych ymlaen i'ch gweld chi! A cofiwch bod croeso i unrhyw un ddod draw i gefnogi'r aelodau yn hynt a helynt y Rali! Ma na gryn edrych 'mlaen ac mae'n argoeli i fod yn ddiwrnod gwerth chweil! OfficialAngleseyShow NFU Cymru 🚜 Anglesey Branch FUW Mona Tractor Co Ltd Cyngor Sir Ynys Môn Ynys Môn / Anglesey 🎪🤡🤹♂️

Wel dyna ni, yr holl baratoi drosodd! Da ni’n edrych ymlaen i groesawu pawb i’r Rali fory, cystadlaethau yn cychwyn am 8yb! COFIWCH; -cardiau aelodaeth -cotiau gwyn Welwn ni chi yn y bora! 🎪🤡🤹♂️ CFfI Cymru Mona Tractor Co Ltd Cyngor Sir Ynys Môn The DPJ Foundation Tir Dewi NFU Cymru 🚜 Anglesey Branch FUW


Chwip o ddiwrnod draw yn OfficialAngleseyShow! Rhywbeth at ddant pob aelod yn y rali, yn magu sgiliau a hyder, sydd yn allweddol ar gyfer datblygiad yr aelodau, a hyn i gyd tra'n mwynhau! Dyfodol cefn gwlad a Chymru'n ddiogel yn nwylo'r Ffermwyr Ifanc! #balch Cyngor Sir Ynys Môn CFfI Cymru

Cadwch y dyddiadau! Mai'n mynd i fod yn fwrlwm o ddigwyddiadau! CFfI Cymru Cyngor Sir Ynys Môn Menter Iaith Môn @MonFMRadio Menter Môn ComisiynyddyGymraeg CroesoMôn


Llongyfarchiadau mawr iawn i chi ar flwyddyn lewyrchus! Daliwch ati! ⭐️ Cofiwch mae'r holl glybiau yn cynnal eu CCB ar hyn o bryd, felly awydd bod yn arweinydd flwyddyn nesaf neu o gymorth i'r clybiau? Cysylltwch a'ch clwb agosaf neu'r swyddfa! CFfI Cymru

Pob lwc i bawb fydd yn cystadlu yng Ngemau'r Ynysoedd draw yn Guernsey! Mae sawl aelod o Ffermwyr Ifanc Môn yn cynrychioli'r Ynys yn y Gemau! CFfI Cymru International Island Games Association (IIGA) Cyngor Sir Ynys Môn


Pob lwc i Bedwyr a Dyfan fory wrth gystadlu trwy Gymru am tro cynta, trip i Rheadyr i ddiwrnod gwaith maes CFfI Cymru. Cystadleuaeth Fferm Ffactor iau. Ffermwyr Ifanc Môn #ClwbPenmynydd 💪🏼💪🏼💪🏼💪🏼
