
A.G DYFFRYN OGWEN
@chwaraeonydo
Dyma safle trydar Adran Addysg Gorfforol, Ysgol Dyffryn Ogwen. Gwybodaeth a newyddion am weithgareddau, ymarferion, gemau. YDO's P.E Dept's twitter account.
ID: 2284702943
15-01-2014 23:19:03
1,1K Tweet
611 Followers
281 Following

Diolch o galon i @teamwales am ddod i Ysgol Dyffryn Ogwen bore 'ma i ysbrydoli rhai o ferched blwyddyn 7. Roedd gwrando ar hanes y gymnastwraig @mializzy_evans yn rhannu ei chefndir yn ysbrydoledig. Pob dymuniad da iddi yn y dyfodol. Ysbrydoli Cymru #dyfalbarhad #gwydnwch #serydyfodol

Ymdrech arbennig heddiw gan fechgyn dan 14 yn rownd 8 olaf cwpan Cymru yn erbyn tîm cryf Syr Hugh Owen. Colli o 3-1 mewn gêm o safon uchel iawn. Mor falch o'r carfan i gyd am eu hymdrech i gyrraedd y pwynt yma. Pob lwc yn y rownd nesaf Addysg Gorfforol SHO.


Cychwyn da i dîm Dan 13 yng nghystadleuaeth ysgolion Eryri. Ennill o 7 cais yn erbyn Amlwch a 6 cais yn erbyn Tryfan. Max, Raffi, Gruff, Chidera ac Ifan ymysg y sgorwyr. Swyddog Hwb Rygbi Ysgol Dyffryn Ogwen/Bethesda Clwb Rygbi Bethesda Ysgol Dyffryn Ogwen


Llongyfarchiadau i'r bechgyn,wedi ennill pob gêm a buddugoliaeth o 3 cais i 1 yn erbyn Ysgol David Hughes yn y rownd derfynol. Ceisiau i Max, Raffi, Gruff a Carwyn yn y ddwy gêm olaf. Perfformiad gwych gan bawb⭐ Swyddog Hwb Rygbi Ysgol Dyffryn Ogwen/Bethesda Ysgol Dyffryn Ogwen Clwb Rygbi Bethesda


Diwrnod arbennig i dimau @dyffrynogwen yng ngystadleuaeth 5x5 Chwaraeon yr Urdd Y genethod wedi cyrraedd y chwarteri a'r bechgyn wedi ennill y gystadleuaeth🏆 Pawb wedi perfformio'n wych trwy'r dydd! #amdanidyffrynogs


Llongyfarchiadau mawr i Caty, blwyddyn 7 Ysgol Dyffryn Ogwen am lwyddo i dderbyn belt brown yn Cicfocsio dros y penwythnos. Da iawn ti a dal ati.



Bore bendigedig yn @ysgLlanllechid yn dathlu diwrnod y llyfr heddiw. Diolch am y croeso, braf gweld cymaint yn mwynhau stori ac yn gwrando mor astud. 📖🥰#diwrnodyllyfr #darllenstori #borebraf #carudarllen Ysgol Dyffryn Ogwen @diwrnodyllyfr Siarter Iaith Gwynedd World Book Day UK 📚


🏏 Ymarfer pel galed i oedrannau dan 13 a dan 15 (blynyddoedd ysgol 7, 8, 9 a 10) yn Bethesda CC bob nos Fercher am 6yh. Croeso i chwaraewyr newydd o unrhyw brofiad a safon. Dim angen kit, bydd gan y clwb y kit. Dewch draw i roi cynnig arni 👍🏻 Rhannwch y neges.


Merched blwyddyn 7 Ysgol Dyffryn Ogwen wedi chwarae yn anhygoel heddiw yn cystadleuaeth rygbi Chwaraeon yr Urdd. Swyddog Hwb Rygbi Ysgol Dyffryn Ogwen/Bethesda yn paratoi y merched i wynebu Godre'r Berwyn yn y ffeinal am 3.15 #amdanidyffrynogs #dyfalbarhad



🏏🏏 Sesiynau criced pel galed i tîmau dan 11 (blynyddoedd ysgol 4, 5 a 6) a tîm dan 13 (blynyddoedd ysgol 7 a 8) yn parhau bob nos Fercher am 6yh. Croeso i chwaraewyr newydd 👍🏻 Ysgol Llanllechid Ysgol Pen-y-bryn Ysgolion Pen-y-bryn ac Abercaseg A.G DYFFRYN OGWEN Ysgol Tregarth Ysgol Bodfeurig Ysgol Rhiwlas


Diolch i dîm Ieuenctid Gwynedd Youth am gynnal sesiynau iechyd a lles i ddisgyblion blwyddyn 7-9 heddiw fel rhan o weithgareddau #WythnosYmwybyddiaethIechydMeddwl Y disgyblion wedi mwynhau'r profiadau wrth ddysgu am gyffuriau, digartrefedd, straen a stereoteipio iechyd meddwl.




🏏⛰️ Amseroedd ymarfer Bethesda CC Training times Oedolion / Adults - 6pm Iau / Thursday Merched / Women - 6:30pm Llun/Monday U11 / U13 / U15 Hardball - 6pm Mercher / Wednesday Criced Dynamos Cricket - 6pm Gwener / Friday Croeso i chwaraewyr newydd / New players welcome



Cychwyn da i'r tymor i dîm dan 14 Ysgol Dyffryn Ogwen. Ymlaen i'r rownd nesaf ar ôl buddugoliaeth o 8-1. 6 gôl i Gruff Beech a gôl yr un i Twm Parry a Tomi Hughes.

