Ficer EDS (@eglwysdewisant) 's Twitter Profile
Ficer EDS

@eglwysdewisant

Eglwys Gymraeg Caerdydd sy'n gwasanaethu'r cymunedau Cymraeg yn y brif ddinas a thu hwnt.

ID: 2252475410

linkhttp://eglwysdewisant.org.uk calendar_today18-12-2013 20:00:09

901 Tweet

428 Followers

438 Following

South Cardiff Ministry Area 🧡 (@southcardiffma) 's Twitter Profile Photo

We’ve been working together with Salvation Army’s Ty Gobaith and The Choir with No Name to host another Memorial Service for those who have died whilst homeless. All are welcome. Please help us get the word around.

We’ve been working together with Salvation Army’s Ty Gobaith and The Choir with No Name to host another Memorial Service for those who have died whilst homeless.

All are welcome. 

Please help us get the word around.
Ficer EDS (@eglwysdewisant) 's Twitter Profile Photo

Nos Fawrth, 12 Tachwedd am 7.30pm byddwn yn croesawu Meg Elis i Eglwys Dewi Sant, pan fydd Meg yn siarad am waith ei mam, Mari, ar yr Hen Bersoniaid Llengar a'i llyfr newydd "Yr Enwog Bererinon: Gwarchod y Fflam". Croeso i bawb.

Plygain (@plygain) 's Twitter Profile Photo

Bydd hi ddim yn hir tan dymor Plygeiniau 2024-25! Os ydych chi'n trefnu gwasanaeth sydd ddim ar ein dyddiadur eto rhowch wybod i ni ar [email protected] If you're organising a Plygain carol service this year please let us know on [email protected]

Bydd hi ddim yn hir tan dymor Plygeiniau 2024-25! Os ydych chi'n trefnu gwasanaeth sydd ddim ar ein dyddiadur eto rhowch wybod i ni ar plygain@gmail.com

If you're organising a Plygain carol service this year please let us know on plygain@gmail.com
Ficer EDS (@eglwysdewisant) 's Twitter Profile Photo

Mae'r rhod yn troi, a dyma ni ar drothwy'r Adfent a dechrau'r flwyddyn eglwysig. Croeso i chi ymuno â ni yn un o'n gwasanaethau yfory am 8.00am, 10.30am a 6.00pm. "Clywaf atsain cân y bore Cerdda dros y ddaear ddu"

Mae'r rhod yn troi, a dyma ni ar drothwy'r Adfent a dechrau'r flwyddyn eglwysig.  Croeso i chi ymuno â ni yn un o'n gwasanaethau yfory am 8.00am, 10.30am a 6.00pm.  
"Clywaf atsain cân y bore
Cerdda dros y ddaear ddu"
Ficer EDS (@eglwysdewisant) 's Twitter Profile Photo

Wrth i'r Nadolig nesáu, byddwn yn cynnal ein gwasanaeth Naw Llith a Charolau yn Eglwys Dewi Sant heno, 22 Rhagfyr am 6.00pm. Croeso i bawb. "Rhown Foliant o'r mwyaf I Dduw y Goruchaf Am roi'i Fab anwylaf yn blentyn i Mair" - Yr Hen Ficer

Wrth i'r Nadolig nesáu, byddwn yn cynnal ein gwasanaeth Naw Llith a Charolau yn Eglwys Dewi Sant  heno, 22 Rhagfyr am 6.00pm.  Croeso i bawb.

"Rhown Foliant o'r mwyaf
I Dduw y Goruchaf
Am roi'i Fab anwylaf
yn blentyn i Mair" - Yr Hen Ficer
Ficer EDS (@eglwysdewisant) 's Twitter Profile Photo

Byddwn yn cynnal ein Bore Coffi a Chlonc yn Eglwys Dewi Sant dydd Sadwrn 25 Chwefror. Dyma gyfle i chi sgwrsio yn Gymraeg mewn awyrgylch hamddenol. Croeso i bawb.

Byddwn yn dathlu Gŵyl Ddewi yn Eglwys Dewi Sant dydd Sul 2 Mawrth gyda gweinyddiad o'r Cymun Bendigaid am 10.30am a chinio o gawl i ddilyn yn y neuadd. Yn pregethu fydd y Parchedig Athro Lloyd Llewellyn-Jones. Croeso i bawb.

FrIrving@StMartin (@irving_fr) 's Twitter Profile Photo

LENT – Choral Evensong (BCP) and Address at St Martin in Roath on Friday in Lent Exploring the beauty and meaning of the Paschal Vigil, the heart and centre of the Christian Liturgical year.

LENT – Choral Evensong (BCP) and Address
at St Martin in Roath on Friday in Lent
Exploring the beauty and meaning of the Paschal Vigil, the heart and centre of the Christian Liturgical year.
Ficer EDS (@eglwysdewisant) 's Twitter Profile Photo

Wedi gwledda ar bancos heddiw, edrych ymlaen yn nawr at Ddydd Mercher y Lludw a dechrau'r Garawys. O'th flaen o Dduw, 'rwy'n dyfod, gan sefyll o hir bell; Pechadur yw fy enw - Ni feddaf enw gwell; Trugaredd wy'n ei geisio, A cheisio eto wnaf; Trugaredd imi dyro...Th Williams

Wedi gwledda ar bancos heddiw, edrych ymlaen yn nawr at Ddydd Mercher y Lludw a dechrau'r Garawys. 

O'th flaen o Dduw, 'rwy'n dyfod,
gan sefyll o hir bell;
Pechadur yw fy enw -
Ni feddaf enw gwell;
Trugaredd wy'n ei geisio,
A cheisio eto wnaf;
Trugaredd imi dyro...Th Williams
Ficer EDS (@eglwysdewisant) 's Twitter Profile Photo

Gwell hwyr na hwyrach! Byddwn yn cynnal ein Bore Coffi a Chlonc i siaradwyr newydd dydd Sadwrn 15 Mawrth yn neuadd Eglwys Dewi Sant am 10.30am. Croeso i bawb.

Mae'r Wythnos Fawr yn dechrau heddiw gyda Sul y Blodau pan fyddwn yn cofio Iesu yn marchogaeth i mewn i Jerwsalem ar gefn asyn a'r dyrfa yn ein groesawu'n llawen â bloedd "Hosanna"! Croeso i chi ymuno â ni yn ein gwasanaethau heddiw.

Mae'r Wythnos Fawr yn dechrau heddiw gyda Sul y Blodau pan fyddwn yn cofio Iesu yn marchogaeth i mewn i Jerwsalem ar gefn asyn a'r dyrfa yn ein groesawu'n llawen â bloedd "Hosanna"!

Croeso i chi ymuno â ni yn ein gwasanaethau heddiw.
Ficer EDS (@eglwysdewisant) 's Twitter Profile Photo

Dyma ein gwasanaethau dros y Tridiau Sanctaidd yn Eglwys Dewi Sant. Os 'dych chi'n digwydd bod yn Caerdydd, y mae croeso i chi ymuno â ni. "O na bai cystuddiau f'Arglwydd Yn fy nghalon yn cael lle -" W. Williams (Pant-y-celyn)

Dyma ein gwasanaethau dros y Tridiau Sanctaidd yn Eglwys Dewi Sant.  Os 'dych chi'n digwydd bod yn Caerdydd, y mae croeso i chi ymuno â ni.

"O na bai cystuddiau f'Arglwydd
Yn fy nghalon yn cael lle -"   W. Williams (Pant-y-celyn)
Ficer EDS (@eglwysdewisant) 's Twitter Profile Photo

"Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi". Math 26:56 Mae'r wylnos drosodd a'r eglwys yn barod ar gyfer gwasanaeth y Groglith Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd am 2.00pm pan fydd y Parchedig Ddr Rosa Hunt, gweinidog y Tabernacl yn pregethu.

"Yna gadawodd y disgyblion ef bob un, a ffoi".  Math 26:56

Mae'r wylnos drosodd a'r eglwys yn barod ar gyfer gwasanaeth y Groglith Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd am 2.00pm pan fydd y Parchedig Ddr Rosa Hunt, gweinidog y Tabernacl yn pregethu.
Ficer EDS (@eglwysdewisant) 's Twitter Profile Photo

Dyma recordiad o wasanaeth Gwener y Groglith Cyngor Eglwys Cymraeg Caerdydd. Yn pregethu mae'r Parchedig Ddr Rosa Hunt, gweinidog Tabernacl yr Ais - "Iesu Ysbeiliwr Uffern" "Gorchfygodd uffern ddu, Gwnaeth ben y sarff yn friw;" youtu.be/eItdj4FK_e4