Y Geiriadur (@geiriadur) 's Twitter Profile
Y Geiriadur

@geiriadur

Geiriadur Prifysgol Cymru: Y geiriadur hanesyddol safonol. Rydym yn symud i @geiriadur.bsky.social. English: @GPCdictionary & @gpcwelshdictionary.bsky.social

ID: 38460973

linkhttp://www.geiriadur.ac.uk calendar_today07-05-2009 16:18:28

4,4K Tweet

4,4K Followers

895 Following

Y Geiriadur (@geiriadur) 's Twitter Profile Photo

Gair y Dydd: tor cythlwng geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?t…, sef toriad ar newyn neu eisiau bwyd. Dyma un o'r nifer o enwau am frecwast a welir yn y Geiriadur, gan gynnwys borebryd, borefwyd, boregwest, a thor ympryd. Beth gawsoch chi i frecwast bore 'ma?

Gair y Dydd: Wythnos y Dioddefaint geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?W…. Mae sawl enw ar wythnos y Pasg yn y Geiriadur a dyma’r un sydd â’r dystiolaeth gynharaf ohono.

Gair y dydd: tafod geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?t… Yn ogystal â'r organ yn y geg sy’n anhepgor ar gyfer siarad a blasu, gall gyfeirio hefyd at iaith a geiriau. A fyddwch chi’n rhoi ‘pryd o dafod’ i rywun weithiau, yn dweud y drefn wrthynt?

Gair y dydd: llathredd geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?l… - Dyma enw da sy'n tarddu o'r ansoddair 'llathr', sef disglair, llachar a chaboledig, ac a ddefnyddir fel enw ar label yr hen dwbyn cwyr gwenyn hwn - yn gyfystyr â pholish. Mae angen tipyn o lathredd ar y twbyn ei hun erbyn hyn!

Gair y Dydd: parsel geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?p… sy'n fenthyciad o'r Saesneg Canol. Dyma lun o barsel yn yr ystyr 'nwyddau, &c., wedi eu lapio’n un pecyn'. Cymerwch olwg ar ystyron eraill y gair megis 'rhan', 'targed', 'casgliad'.

Gair y Dydd: irddail geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?i…– sef y dail gleision ffres sydd wedi ymddangos ar y cloddiau ac ar y coed ddiwedd Ebrill fel hyn.

Gair y dydd: bisged geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?b… - sef cacen fechan fflat a fwyteir yn aml â 'phaned o de neu goffi, a bisged galed a fwyteid gynt ar fwrdd llong. Pa enw a ddefnyddiwch chi - bisgit, bisgïen, sgeden, cacen, teisen, bara poeth, bochlwyth, neu a oes enw arall arni?

Gair y dydd: bisged geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?b… - sef cacen fechan fflat a fwyteir yn aml â 'phaned o de neu goffi, a bisged galed a fwyteid gynt ar fwrdd llong. 
Pa enw a ddefnyddiwch chi - bisgit, bisgïen, sgeden, cacen, teisen, bara poeth, bochlwyth, neu a oes enw arall arni?
Y Geiriadur (@geiriadur) 's Twitter Profile Photo

Gair y Dydd: cynulliad geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?c…. Chwe mlynedd ar hugain i heddiw y cynhaliwyd yr etholiad cyntaf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Senedd Cymru erbyn hyn. Tŷ Hywel yng Nghaerdydd oedd cartref cyntaf y sefydliad newydd.

Gair y dydd: banadl geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?b… "Melynach oedd ei phen na blodau y banadl" - disgrifiad awdur y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen o harddwch trawiadol Olwen. Llyfr Coch Hergest, Jesus 111, 204r, yn Digital Bodleian, digital.bodleian.ox.ac.uk

Gair y dydd: banadl geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?b… "Melynach oedd ei phen na blodau y banadl" - disgrifiad awdur y chwedl ganoloesol Culhwch ac Olwen o harddwch trawiadol Olwen. 

Llyfr Coch Hergest, Jesus 111, 204r, yn Digital Bodleian, digital.bodleian.ox.ac.uk
Y Geiriadur (@geiriadur) 's Twitter Profile Photo

Gair y dydd: castellu geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?c… - dyma enw'r weithred pan fydd aderyn fel y paun yn lledu, gwrychu a sythu plu'r adenydd, mewn ymgais i ddenu cymar neu fygwth ysglyfaethwr. Ystyr cynharaf y ferf yw'r weithred o godi, diogelu ac amddiffyn caer.

Gair y Dydd: noeth geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?n… Yng nghanol yr holl wyrddni o'i chwmpas, mae canghennau'r goeden druan yn noeth - 'heb ddim o’r gorchudd arferol'.

Gair y dydd: HOYWDO gorchudd (to) hardd (hoyw) geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?h… Hen air cyfansawdd a ddefnyddiodd Dafydd ap Gwilym i ddisgrifio gorchudd hardd o wlith, a gair perffaith i ddisgrifio’r carped hyfryd hwn o lygaid y dydd, ger swyddfeydd GPC heddiw.

Gair y dydd: HOYWDO gorchudd (to) hardd (hoyw)  geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?h…

Hen air cyfansawdd a ddefnyddiodd Dafydd ap Gwilym i ddisgrifio gorchudd hardd o wlith, a gair perffaith i ddisgrifio’r carped hyfryd hwn o lygaid y dydd, ger swyddfeydd GPC heddiw.
Y Geiriadur (@geiriadur) 's Twitter Profile Photo

Gair y dydd: gwillmer, gwillmyr, gwillmor geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?g… Gair arall am fôr-leidr, sef gwyll(iad)+mŷr (un o ffurfiau lluosog môr). Ganed Barti Ddu, y gwillmer o Gasnewydd-bach, ar 17 Mai 1682.🏴‍☠️

Gair y Dydd: swclyn geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?s… Dyma swclyn bach dau ddiwrnod oed - beth yw eich gair chi am swclyn - ebol? cyw? A ydych wedi dod ar draws sycer, blanc, neu ffolwer sy'n eiriau eraill am ebol i'w gweld yn GPC?

Gair y Dydd: ambor geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?a…. Porfa neu laswellt yw’r ystyr fan hyn ac mae’n digwydd mewn enw fferm ger Ystrad-ffin yn sir Gaerfyrddin. (Mae gair arall, a yngenir ac a ysgrifennir yr un fath, yn golygu pryd ysgafn o fwyd.)

Gair y dydd: PENBWL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?p…, penbyliaid, pennau byliaid neu hyd yn oed penbwlets yn sir Benfro. Larfa brogaod neu lyffantod ac iddynt bennau mawr, a fawr ddim arall! Am y rheswm hwnnw defnyddir penbwl yn gyffredin am dwpsyn. Beth yw’ch gair chi ac ym mha ardal?

Gair y dydd: PENBWL geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?p…, penbyliaid, pennau byliaid neu hyd yn oed penbwlets yn sir Benfro. Larfa brogaod neu lyffantod ac iddynt bennau mawr, a fawr ddim arall! Am y rheswm hwnnw defnyddir penbwl yn gyffredin am dwpsyn.
Beth yw’ch gair chi ac ym mha ardal?
Y Geiriadur (@geiriadur) 's Twitter Profile Photo

Bydd bwriad Prifysgol Bangor i leihau staff Archifdy Bangor i un swydd ran-amser yn peryglu casgliadau sy'n bwysig iawn i waith GPC gan gynnwys papurau Ifor Williams, John Lloyd-Jones, a Melville Richards i enwi ond tri. Llofnodwch y ddeiseb hon: change.org/p/save-your-ar…

Y Ganolfan Geltaidd (@ganolfan) 's Twitter Profile Photo

Un o olygyddion hŷn Y Geiriadur, sef yr Athro Ann Parry Owen Aɳɳ Pαɾɾყ Oɯҽɳ , sy'n traddodi'r ddarlith hon eleni. Ymunwch â ni i wrando ar ychydig o hanes geiriadur hanesyddol Thomas Wiliems.

Y Geiriadur (@geiriadur) 's Twitter Profile Photo

Gair y Dydd: can geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?g…. Gyda’r glaw wedi dod, mae llai o angen defnyddio caniau dŵr ar hyn o bryd. Beth fyddwch chi’n galw teclyn fel y rhai yn y llun isod?

Gair y dydd: bethma geiriadur.ac.uk/gpc/gpc.html?b…. Gair defnyddiol os ydych chi'n digwydd anghofio'r enw ar gyflwr rhywbeth neu rywun, neu ddim yn gwybod sut i'w ddisgrifio. Gall olygu 'diddrwg didda', 'anhwylus' a 'simsan', ac fel enw, mae'r gair yn gyfystyr â 'bechingalw'.